Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Eu nod yw gwella ansawdd addysg, hyfforddiant a chanlyniadau i bob dysgwr ledled Cymru. Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth ag Estyn i gyflwyno eu hadroddiad blynyddol, eu canfyddiadau cryno ac adnoddau dysgwyr.
Ein nod ar gyfer y prosiect oedd cynyddu ymgysylltiad ag athrawon, rhanddeiliaid, dysgwyr a disgyblion. Yn draddodiadol, roedd Estyn yn cynhyrchu PDF neu adroddiad blynyddol printiedig nad oedd yn cael y lefelau darllenwyr yr oedden nhw eu heisiau; cynigiom wefan adroddiad blynyddol digidol i gyd-fynd â'r fersiwn PDF. Gwnaeth y fersiwn digidol hwn yr adroddiad yn llawer mwy deniadol a haws i’w ddarllen, ac roedd yn cynnwys cyfres o asedau, adnoddau a chynnwys digidol. Roedd cyflwyno’r adroddiad blynyddol fel hyn hefyd yn golygu y gallem fesur ymgysylltiad yr holl asedau digidol drwy ddadansi ac adrodd ar eu heffaith.
Fe wnaethom gydlynu ffotograffiaeth a fideo ledled Cymru i adnewyddu asedau digidol Estyn. Mae’r casgliad newydd hwn o ddelweddau yn cyflwyno lluniau amrywiol a modern o addysg yng Nghymru, gan gwmpasu pob sector ar draws y wlad gyfan.
Yn ogystal â'r adroddiad blynyddol, rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau dysgu ar y we ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhoddodd hyn strwythur i gynghorau ysgol gynnal sgyrsiau a thrafod ystyrlon, yn ogystal ag arweiniad i ysgolion ar sut i ymgysylltu â’u gweithgareddau.
Crynodeb o'r Prosiect
I grynhoi'r prosiect...
• Dylunio a chreu dogfen PDF yr Adroddiad Blynyddol.
• Cydlynu sesiynau tynnu lluniau ledled Cymru i gasglu delweddau i Estyn eu defnyddio yn eu deunyddiau.
• Creu cardiau templed cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio ar draws eu sianeli.
• Cynhyrchu fideo 5 munud i'w chwarae ar y noson, yn amlygu effaith eu hadroddiad blynyddol.
• Dylunio a chyflenwi arddangosiadau digwyddiad a baneri ar gyfer y digwyddiad lansio.
Rydym yn hynod hapus gyda'r canlyniadau a'r effaith yr ydym wedi gallu ei gyflawni rhyngom ni ac Estyn.
Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech
© Pobl Tech