Brandio a gwefan ar gyfer arolygiaeth addysg Cymru

Homepage of the Estyn website on a tablet

Estyn yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Eu nod yw gwella ansawdd addysg, hyfforddiant, a chanlyniadau i ddysgwyr ledled y wlad.

The Estyn logo

Brandio

Fe wnaethon ni gydweithio ag Estyn i ail-lunio eu brand – gan addasu eu logo presennol, cyflwyno palet lliw newydd, a dewis teipograffeg fwy cymeriadol. Roedd y newidiadau hyn yn gwneud Estyn yn llawer mwy hygyrch ac agos-atoch, yn pwysleisio eu rôl fel cefnogwyr i athrawon yn hytrach na beirniaid.

The Estyn icon
An Estyn presentation screen layout

Fe wnaethon ni greu pecyn brand cyflawn i Estyn, gan gynnwys adnoddau fel graffeg ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, templedi, a fformat sleidiau newydd ar gyfer cyflwyniadau. Mae hyn oll yn eu helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol gyda’u cynulleidfa.

Spreads from the Estyn brand guidelines document
Estyn brand toolkit items

Gwefan

Roedd gan Estyn gronfa enfawr o adnoddau addysgol, ond roedd dod o hyd iddyn nhw bron yn amhosibl. Fe wnaethon ni ail-lunio eu gwefan, gan greu canolfan adnoddau hawdd ei defnyddio ar gyfer athrawon a dysgwyr. Gyda chynulleidfa mor amrywiol, fe wnaethon ni sicrhau bod y wefan newydd yn cynnig arweiniad cliriach ac yn haws i’w llywio.

The Estyn website homepage on mobile
Mobile layouts for various Estyn web pages