Gwefan newydd ar gyfer lloches anifeiliaid

Lloches anifeiliaid yn Llanfrechfa ger Cwmbrân yw All Creatures Great and Small. Maen nhw’n achub ac yn ailgartrefu cŵn, cathod ac anifeiliaid bach eraill, yn ogystal â chynnig cartref parhaol i’w hanifeiliaid preswyl.


Mae All Creatures yn gwneud gwaith anhygoel yn gofalu am anifeiliaid ac yn rhoi ail gyfle i anifeiliaid anwes sydd, yn aml, wedi cael dechrau caled. Mae cadw lloches fel hyn yn her barhaus – maen nhw’n dibynnu ar roddion a gwirfoddolwyr sy’n rhoi’r anifeiliaid yn gyntaf bob tro.Mae’n le arbennig iawn.
Fe wnaethon ni gynnig dylunio a chreu gwefan newydd i All Creatures – yn hollol rhad ac am ddim. Fe wnaethon ni wrando ar yr heriau maen nhw’n eu hwynebu fel sefydliad ac, o hynny, fe wnaethon ni greu gwefan a oedd yn anelu at fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.
O wneud y broses o ailgartrefu anifeiliaid yn gyflymach ac yn fwy effeithlon, i gynyddu rhoddion a denu mwy o wirfoddolwyr – ein gobaith yw bod ein cyfraniad bach yn ategu’r gwaith caled mae eu staff a’u gwirfoddolwyr yn ei wneud i wella bywydau’r anifeiliaid yn eu gofal, nawr ac yn y dyfodol.






Fel rhan o’r prosiect, fe wnaethon ni gydweithio â’r ffotograffydd Alex Lloyd Jenkins, a oedd hefyd mor garedig â darparu ei wasanaethau’n rhad ac am ddim.

