Mae Tafwyl yn ŵyl ddeuddydd rhad ac am ddim sy'n dod â'r gorau o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg at ei gilydd yng nghanol Caerdydd. Gyda sawl llwyfan yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid, ardal chwaraeon, pentref plant, amrywiaeth o stondinau bwyd stryd a marchnad a mwy. Yn y gorffennol mae wedi denu bron i 40,000 o ymwelwyr dros y digwyddiad deuddydd yng nghanol Caerdydd.
Ac rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Tafwyl fel eu Partneriaid Arloesi!
Cafodd Pobl Tech y dasg o greu ap dwyieithog ar gyfer y digwyddiad diwylliannol poblogaidd. Prif bwrpas yr ap fyddai cynnig amserlen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sy'n digwydd dros y ddau ddiwrnod. Yna byddai'r ap yn cynnig gwybodaeth am werthwyr bwyd, diod a stondinau - yn ogystal ag arddangos noddwyr a map y digwyddiad.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Menter Caerdydd a Tafwyl i ddatblygu'r ap dros y blynyddoedd nesaf. Mae syniadau newydd yn llifo i mewn gyda dyheadau i greu profiad gwirioneddol ryngweithiol a diddorol i fynychwyr yr ŵyl - a hyd yn oed i'r rhai sydd heb fynychu! Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd...
Gadewch i ni siarad am eich syniadau. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
hello@pobl.tech
© Pobl Tech